Croeso i'r Ysgol Ddigidol

SGILIAU DIGIDOL I YSGOLION

Pecynnau o adnoddau a chyrsiau DPP ar werth, ynghyd â llu o adnoddau rhad ac am ddim!

Meredudd Jones

Helo ‘na! Meredudd ‘dw i, Pennaeth TG a Chyd-gysylltydd Sgiliau Digidol yn Ysgol Maes y Gwendraeth, ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghefneithin, Cwm Gwendraeth.

Mae ‘nghefndir i ym myd addysg yn ychydig o fara brith! Ar ôl graddio o Goleg y Drindod gyda BA Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, bues i’n gweithio fel athro cerdd peripatetig am rai blynyddoedd, yn addysgu Set Drymiau a’r Chwythbrennau i Wasanaeth Cerdd Sir Gâr.

Cefais gyfle i fynd i weithio yn yr ysgol wnes i fynychu, Maes Yr Yrfa, ‘nôl yn 2007, ac er i mi ymuno fel athro Cerddoriaeth, ‘dwi wedi symud draw yn raddol i gymryd cyfrifoldeb am addysg ddigidol ers i’r ysgol droi’n Faes y Gwendraeth yn 2013.

CEFNOGAETH CYMHWYSEDD DIGIDOL

PECYNNAU AR WERTH

Cyfresi o wersi thematig, sy'n targedu ac yn mapio ystod o sgiliau ar draws y FfCD.

ADNODDAU AM DDIM

PDFs defnyddiol o gyfarwyddiadau cam wrth gam, rhestrau gwirio, posteri ayb.

SIANEL YOUTUBE

Cofiwch danysgrifo i'r sianel YouTube. Mae'n cynnwys gwrsi, hyfforddiant, cyngor a mwy!

ADBORTH

"Rydym wedi defnyddio pecynnau Tywydd Braf ac Eryri.  Mae’r gwersi yn hawdd i'w dilyn, yn uwchsgilio staff ac yn codi hyder - yn enwedig yr athrawon a oedd yn ofni dysgu TGCh. Mae’r ffordd y mae’r Ysgol Ddigidol yn esbonio’r tasgau cam wrth gam yn sicrhau bod y disgyblion yn medru cyflawni’r tasgau’n annibynnol. Mae pob pecyn wedi eu mapio yn erbyn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol sy’n help mawr i’r athrawon sicrhau bod trawstoriad o sgiliau yn cael eu haddysgu. Dyma’r union fath o adnodd sydd eisiau ar athrawon.  Adnodd sy’n lleihau baich gwaith ond sy’n cyflawni tasgau o safon gwerth chweil."
LOGO FFWRNES
Ioan Jones
Ysgol Ffwrnes
“Mae pandemig COVID wedi cyflymu cynlluniau ein hysgol i adolygu a thrawsnewid ein gweithdrefnau digidol ar draws yr ysgol.Mae Meredudd wedi darparu gwasanaeth a chymorth rhagorol ar bob lefel, mewn dull hwylus a chefnogol tu hwnt.”
Dylan Evans
Ysgol y Dderwen
"Mae'r adnoddau 'rydym wedi eu prynu gennych wedi bod yn hynod ddefnyddiol. 
Maent yn rhwydd i'w defnyddio ac yn bachu sylw'r plant yn syth."
logo nefyn
Meirwen Williams
Ysgol Nefyn
YR YSGOL DDIGIDOL

YN CEFNOGI TAITH
CYMHWYSEDD DIGIDOL
YSGOLION CYMRU